Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Y Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) | The Draft Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Bill

 

ALN 19

Ymateb gan : Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG)

Response from : Parents for Welsh Medium Education (RhAG)

 

1. Sylwadau Cyffredinol

 

1.1 Mae RhAG yn falch o’r cyfle i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig mewn perthynas â’r Bil drafft.  Mae llawer o’n sylwadau yn seiliedig ar ein hymateb i’r Papur Gwyn, a gyhoeddwyd fel dogfen ymgynghorol rhwng 22 Mai a 25 Gorffennaf 2014.

 

1.2 Mae RhAG yn croesawu’r weledigaeth sylfaenol a grisialir yn y Bil, sef i gysoni a symleiddio’r prosesau a chreu cyfundrefn sy’n fwy unedig, cyd-gysylltiol a theg. Cefnogwn amcanion y ddeddfwriaeth, sef i gynnig atebion ymarferol i ddiffygion y system bresennol ac adlewyrchu’n well y sefyllfa genedlaethol sydd ohoni heddiw.

 

1.3 Byddwn yn canolbwyntio yma ar ein prif bryderon ac yn nodi’r meysydd hynny yr ydym yn credu y dylai’r Pwyllgor roi ystyriaeth iddynt fel rhan o’r ymgynghoriad.  Bydd nifer o’n sylwadau yn cyffwrdd ar gynnwys y Cod Ymarfer arfaethedig yn ogystal â’r Bil drafft ei hun.

 

2. Y Gymraeg

 

2.1 Caiff unrhyw ymdrechion i sefydlu cyfundrefn sy’n fwy cynhwysol a chyfannol drwy’r cynigion deddfwriaethol dan sylw eu tanseilio’n syth o ganlyniad i ddiffyg cydnabyddiaeth o’r cyd-destun ieithyddol yng Nghymru.

 

2.2 Mae RhAG - ynghyd â nifer o fudiadau eraill sy’n gweithio i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg - wedi codi mater y Gymraeg ym mhob ymgynghoriad ar y mater hwn ers blynyddoedd, ac mae’n destun gofid a phryder sylweddol nad ydym wedi gweld unrhyw gynnydd neu welliant ar hyd y daith.

 

2.3 Nid yw rhoi ‘ystyriaeth i bob ymateb a ddaeth i law yn sgil ymgynghoriadau blaenorol’ yn ddigonol nac yn dderbyniol.

 

2.4 Mae’n syfrdanol felly bod ystyriaethau allweddol yn ymwneud â’r iaith Gymraeg yn parhau i fod ar goll yn y Bil a’r dogfennau ategol.

 

2.5 Dylai darpariaeth cyfrwng Cymraeg fod yn elfen greiddiol a chanolog o’r Bil newydd, y Memorandwm Esboniadol a’r Cod Ymarfer arfaethedig ac nid ystyriaeth ymylol fel sydd ar hyn o bryd.

 

2.6 Polisi cenedlaethol Llywodraeth Cymru yw cynyddu’r cyfleoedd i gael mynediad at addysg Gymraeg trwy ehangu’r ddarpariaeth.  Tra bod twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, nid oes tystiolaeth o dwf cyffelyb yn y ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifainc ag anghenion addysgol ychwanegol.

 

2.7 Mae potensial i weddnewid y sefyllfa ond mae hynny’n gwbl ddibynnol ar dalu sylw teilwng a dyledus i’r Gymraeg a darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn unrhyw gynigion deddfwriaethol newydd.

 

2.8 Mae Mesur y Gymraeg (2011) yn gosod y cyd-destun cyfreithiol lle na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Credwn y dylai egwyddorion cyfreithiol y Mesur fod yn ystyriaeth trosfwaol i’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn yr un modd ag y mae egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Dylai hynny fod yn egwyddor sylfaenol.

 

2.9 Fel Strategaeth Iaith y Llywodraeth - Iaith fyw: iaith byw - credwn bod hwn yn fater o gyfleoedd cyfartal sylfaenol:

 

“Mae cyfle cyfartal yn thema drawsbynciol sy’n allweddol i’r ddogfen hon ac i holl bolisïau Llywodraeth Cymru. Ni ddylai unrhyw un, mewn unrhyw ran o Gymru, fethu â manteisio ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, nac ychwaith fethu â manteisio ar gyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg oherwydd eu hil, ethnigrwydd, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, oedran neu grefydd (t.19).

 

2.10 Ategir hynny yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (12:2010).

 

2.11 Mae cynllunio strategol ar gyfer ADY hefyd erbyn hyn yn ofyniad statudol o fewn y gyfundrefn Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg:

 

“AS1.5: Disgwyl gwell cynllunio ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau addysg cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) fel rhan annatod o ddarpariaeth addysg yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol.”

Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, Llywodraeth Cymru.

 

2.12 Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod cynigion y Bil drafft yn ‘cefnogi’ Strategaeth Iaith Fyw: iaith byw a Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a’u bod yn ‘ategu gofynion Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg’ (paragraff 7.255).  Aiff ymlaen i ddweud ym mharagraff 7.256, ‘Mae ein cynigion yn cefnogi’r camau i sicrhau darpariaeth Gymraeg.  Bydd y Cod yn rhoi gwybodaeth bellach ynghylch darpariaeth Gymraeg.’

 

2.13 Mae ieithwedd amwys o’r fath yn ei gwneud yn amhosib i ddirnad sut bydd y Bil drafft yn asio gyda pholisïau a strategaethau allweddol o safbwynt y Gymraeg, yn arbennig o ystyried nad oes unrhyw gyfeiriad at y Gymraeg yng nghorff y Bil.

 

2.14 Yn wir, mae cymal yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn nodi fod pwerau eisioes ym meddiant Llywodraeth Cymru i weithredu ar hyn – ond unwaith eto, mae angen canllawiau a thargedau pendant ar sut caiff y pwerau hyn eu defnyddio.  Credwn fod angen i unrhyw Gôd Ymarfer newydd fanylu ar sut y cyflawnir hynny.

 

2.15 Nodwn bod yr Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg yn cynnwys rhestr o bwyntiau y ‘mae’n debygol y bydd y Cod drafft yn cynnwys’ mewn perthynas â’r Gymraeg.  Mae’r Asesiad Effaith yn cyffwrdd ar rai (ond nid y cyfan) o’r materion perthnasol; credwn mai prif wendid yr Asesiad Effaith yw ei fod yn cymryd ymagwedd gyffredinol o effaith cynigion y Bil drafft ar holl ddysgwyr ADY, ond heb sylw penodol ar natur yr effaith ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.  Mae’n hysbys fod gan y sector anghenion a gofynion unigryw; o safbwynt dysgwyr, teuluoedd ac ymarferwyr, ac felly mae angen cydnabod hyn a manylu ynghylch sut y bydd y cynigion deddfwriaethol nid yn unig yn ymateb i hynny ond yn darparu ar ei gyfer.

 

2.16 Ymddengys bod un darn o waith anhepgorol sydd wedi ei anwybyddu’n llwyr wrth ymdrin â’r maes, sef Adroddiad Cydnabod Angen:  Arolwg o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog ar gyfer disgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig yng Nghymru (2001) Huw Roberts, Ysgol Addysg, Prifysgol Cymru Bangor.

 

2.17 Dyma adroddiad cynhwysfawr gan arbenigwyr yn y maes sydd yn cynnwys cyfres o argymhellion a ddylai fod yn sail i gynnwys y Cod Ymarfer. Ymddengys fod y gwaith nodedig hwn, i raddau helaeth, wedi’i anwybyddu ers ei gyhoeddi.  Mae angen gwneud defnydd helaeth ohono gan fod cymaint o’r argymhellion yn parhau yr un mor berthnasol heddiw.

 

2.18 Credwn fod y Bil drafft dan sylw yn cynnig cyfle i osod gwaelodlin sy’n sefydlu’r egwyddor o hawl i ddarpariaeth ar gyfer disgyblion gydag anhawsterau dysgu yn unol â dewis iaith y rhiant.

 

2.19 Dylid cadarnhau bod iaith yn angen (need) fel egwyddor sylfaenol ar wyneb y Bil, a thrwy hynny sefydlu’r hawl i ddewis a derbyn darpariaeth a/neu wasanaeth / gwasanaeth cefnogol trwy gyfrwng y Gymraeg. Dylid rhaeadru ystyriaethau’n ymwneud a’r iaith Gymraeg a darpariaeth cyfrwng Cymraeg trwy pob elfen o’r ddeddfwriaeth ac unrhyw God Ymarfer newydd arfaethedig.  Ni ddylid gwahaniaethu ar sail cefndir ieithyddol yr unigolyn, boed ef/hi yn siaradwyr Cymraeg, yn ddysgwyr neu’n siaradwr di-Gymraeg.

 

2.20 Polisi Llywodraeth Cymru yw symud at gynnydd nifer y bobl sy’n siarad y Gymraeg ac ehangu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith, yn arbennig ym mheuoedd y teulu a’r gymuned.  Rhaid osgoi sefyllfa ble caiff teuluoedd sydd â phlant gydag anhawsterau dysgu ychwanegol eu hamddifadu o’r cyfle i brofi a chwarae rhan llawn yn y weledigaeth honno, ac yn hytrach greu byd sy’n amherthnasol neu’n gaeëdig iddynt.

 

2.21 Mae Deddf Addysg 1996 a Chod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru, 2004 yn gwneud darpariaethau sy’n golygu bod disgyblion gyda anghenion dysgu ychwanegol yn rhan greiddiol o holl brosesau cynllunio ar draws pob cyfnod addysgol.  Mae’n rhaid i AALLau geisio diwallu anghenion disgyblion AAA yn unol â dewis y rhieni o safbwynt darpariaeth a chydnabod hawliau plant gyda AAA i dderbyn darpariaeth yn eu dewis iaith.

 

2.22 Y pryder ar hyn o bryd yw nad yw hynny’n cael ei wireddu ar lawr gwlad.  Mae’r ddarpariaeth Anghenion Addysgol Ychwanegol yn parhau’n ddiffygiol mewn sawl rhan o Gymru, ac mewn rhai meysydd yn fwy nag eraill.  Mae anghysondeb yn y modd caiff teuluoedd eu trin; y ddarpariaeth sydd ar gael; ynghyd â lefel yr arbenigedd a’r gefnogaeth sydd ar gael.  Mae’n ddarpariaeth anghyson sy’n parhau i fod yn loteri cod post. Ein pryder sylfaenol yw nad yw difrifoldeb y sefllfa’n cael ei adlewyrchu yn y Bil a’r dogfennau ategol.

 

2.23 Wrth i addysg Gymraeg ehangu ymhellach mae’n anochel y bydd achosion (yn arbennig mewn meysydd fel iaith a lleferydd) yn dod yn fwyfwy cyffredin.  Nid yw’r Bil, na’r Memorandwm Esboniadol yn adlewyrchu natur ieithyddol amrywiol Cymru a’r gofynion sy’n deillio o hynny.  O gofio bod y mwyafrif o ddisgyblion yn y sector cyfrwng Cymraeg yn hannu o gefndiroedd di-Gymraeg, a bod twf addysg Gymraeg yn fwyafrifol mewn ardaloedd mwy Seisnigedig, mae'n bryder sylfaenol y bydd rhieni nad ydynt yn siarad y Gymraeg yn medru cael yr un cyfleoedd a thegwch i'w plant gael mynediad at Addysg Gymraeg.

 

2.24 Yn yr un modd, mae angen sylw penodol mewn perthynas â phlant o deuluoedd Cymraeg eu hiaith nad ydynt wedi dod i gysylltiad sylweddol â’r Saesneg, h.y. plant sydd i bob pwrpas yn uniaith Gymraeg.  Mae angen darpariaethau a fydd yn nodi’n glir sut y bydd trefniadau asesu, darpariaeth a chefnogi yn cael eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg.  Unwaith eto, nid yw’r Bil na’r dogfennau ategol yn cyfeirio o gwbl at hyn.

 

2.25 Mae’r rhain yn faterion allweddol y dylid rhoi sylw dyledus iddynt, o fewn y Bil ei hun a/neu mewn unrhyw God Ymarfer newydd.

 

 

3. Cyfrifoldebau Awdurdodau Lleol

 

3.1 Mae RhAG o’r farn bod angen cynnal awdit cyffredinol o’r ddarpariaeth fesul sir, a sicrhau bod cydweithio rhyngsirol yn cael ei hwyluso i roi tegwch i ddisgyblion sydd eisoes yn dioddef o anableddau neu anawsterau dysgu.   Gallai’r cydweithio rhyngsirol hwn fod ar ffurf canolfannau rhagoriaeth rhanbarthol a fyddai’n cefnogi canolfannau lloeren.

 

3.2 Ceir o hyd enghreifftiau o arbenigwyr yn cynghori rhieni i symud eu plant o’r sector cyfrwng Cymraeg i’r sector Saesneg gan ddatgan y byddai’r plentyn ‘ar ei ennill’ o wneud hynny.  Mae hyn yn ddull o beidio darparu gwasanaeth Cymraeg, ac mae’n gwrthod hawl disgybl o gael addysg yn ei ddewis iaith.  Os yw’r plentyn neu’r rhiant yn fregus, yna cred RhAG fod mwy o ddadl dros ddarparu’r lefel uchaf o gefnogaeth.

 

3.3 Profiad RhAG yw mai rhieni fel arfer sy’n parhau i orfod brwydro er mwyn sicrhau darpariaeth, a thrwy eu dycnwch a’u hymdrechion hwy y gellir priodoli unrhyw lwyddiant.

 

3.4 Cred RhAG bod angen gwrthdroi’r feddylfryd a’r arferiad adweithiol gan Awdurdodau Lleol ac i roi’r ernes arnynt i berchnogi rôl mwy rhagweithol, yn hytrach na’r sefyllfa arferol ble mae rhieni yn gorfod gofyn neu wthio’r broses.  Rhaid chwyldroi’r modd y mae Awdurdodau Lleol yn cyflawni eu dyletswyddau tuag at blant gyda ADY.

 

3.5 Dyma rai meysydd y dylid rhoi sylw i hyn, naill ai ar wyneb y Bil neu yn y Cod Ymarfer:

 

3.6 Pennod 4 y Cod: Cynnwys a chefnogi plant, eu rhieni a phobl Ifanc sy’n ymdrin â dyletswyddau i annog cyfranogiad plant, pobl Ifanc a’u teuluoedd yn y broses.  Tra bod yr egwyddor o wneud hynny i’w gymeradwyo, nid oes unrhyw gyfeiriad at bwysigrwydd parchu dewis iaith y plant, pobl Ifanc na’r teuluoedd yn y broses honno.

 

3.7 Pennod 5 y Cod: Cyngor a Gwybodaeth

Mae’n gwbl allweddol bod datganiad clir ynghylch disgwyliad i unrhyw wybodaeth neu gyngor fod ar gael yn y Gymraeg – boed hynny’n ysgrifenedig, electronaidd neu ar lafar.  Pwysleisiwn y dylid ymrwymo darparwyr trydydd parti / allanol sy’n cyflenwi gwasanaeth ar ran yr ALl.

 

3.8 Penodau 20 a 21 sy’n cyfeirio at yr hawl i gael ymwneud â phrosesau datrys anghydfodau ac apeliadau at y Tribiwnlys drwy gyfrwng y Gymraeg. Pwysleisiwn yr angen i gadarnhau bod gan ddysgwr a’i deulu yr hawl i wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

3.9 Safonau’r Gymraeg: Ceir cyfeiriad at Safonau’r Gymraeg ym mharagraff 14 o’r Cod Ymarfer.  Disgwylir i bob ALl weithredu’r safonau newydd o Ebrill 2016 ymlaen, ond ni fydd pob safon yn gymwys i bob corff cyhoeddus gan y

bydd hysbysiad statudol pob corff yn amrywio.  Mae hynny’n rhwym o arwain at sefyllfa ble bydd y ddarpariaeth ADY yn anghyson ledled Cymru.  Mae’n gamarweiniol felly i ddisgwyl i’r Safonau newydd weithredu fel math o ‘rwyd diogelwch cenedlaethol’ o safbwynt ADY, ac felly mae angen nodi a chydnabod hynny yn ogystal â chynnig eglurder ynghylch sut bydd y cynigion deddfwriaethol newydd yn sicrhau na fydd ADY yn parhau’n loteri cod post.

 

4. Gweithlu a hyfforddiant

 

4.1 Roedd yn siomedig gweld na roddwyd sylw teilwng i faterion ieithyddol o ran sgiliau’r gweithlu yn yr ‘Asesiad o ofynion datblygu’r gweithlu anghenion addysgol arbennig’ a gynhaliwyd yn ddiweddar.  Nid oes modd cyfiawnhau diffygion o’r fath mewn perthynas ag elfen cwbl greiddiol o ran cyflawni amcanion y Bil yn ymarferol.

 

4.2 Mae’n rhaid sicrhau bod darpariaeth arbenigol digonol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a hynny ar draws y disgyblaethau, e.e. therapyddion iaith a lleferydd, seiciatreg, cymorth dyslecsia ac ati, ar sail statudol.  Mae bylchau sylweddol yn y ddarpariaeth ar hyn o bryd yn sgil diffyg ymarferwyr ac arbenigwyr proffesiynol cymwys sy’n medru gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Credwn bod modd i’r ddeddfwriaeth sicrhau hyn ac y dylid ymgorffori’r manylder angenrheidiol er mwyn cyflawni hynny mewn unrhyw God Ymarfer.

 

4.3 Mae angen sicrhau hyfforddiant digonol, pwrpasol ac arbenigol, i gychwyn gyda chyrsiau hyfforddi athrawon a gweithwyr yn y meysydd dan sylw. Rhaid hyfforddi a chefnogi athrawon yn fwy effeithiol ynglŷn â’r ffyrdd o adnabod anghenion, sut i ymyrryd yn ddigon buan a sut i gefnogi disgyblion yn yr hir-dymor. Mae cynllun hyfforddi tymor hir er mwyn galluogi ac arfogi’r sector i ymateb yn effeithiol i ofynion y Bil newydd yn gwbl allweddol.

 

4.4 Mae RhAG o’r farn bod materion sydd angen manylu yn eu cylch yn y Cod Ymarfer arfaethedig, yn cynnwys:

 

 

4.5 Rydym yn croesawu’r bwriad i ddiffinio a chadarnhau rôl y Cydlynydd ADY ar sail statudol yn y Cod drafft arfaethedig. Mae penodi unigolyn cymwys i arwain yn y maes ar lefel ysgol yn ddatblygiad cadarnhaol ond credwn fod angen cydnabod cyd-destun amrywiol y ddarpariaeth ysgol ledled Cymru. Mewn ysgolion o faint sylweddol, ni ddylai’r gwaith o benodi fod yn dasg anymarferol ond nid dyna’r achos ym mhob achos e.e mewn ysgolion bach. Credwn felly y dylid nodi’r posibilrwydd o benodi Cydlynydd ADY llawn amser ar gyfer clwstwr o ysgolion. Yn yr un modd, mewn ardaloedd ble mae nifer llai o ysgolion Cymraeg neu lle mae ysgolion Cymraeg newydd gael eu sefydlu, credwn y dylai’r un egwyddor fod yn berthnasol yn yr achosion hynny yn ogystal.

 

5. Cyfrifoldeb ar ysgolion unigol

 

5.1 Ymddengys y bydd cryn dipyn o gyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo o ALl i ysgolion unigol yn sgil darpariaethau’r Bil newydd, gan gynnwys llunio, cynnal ac adolygu Cynlluniau Datblygu Unigol.

 

5.2 Mae cyfrifoldeb sylweddol gan ysgolion ar hyn o bryd ond o leiaf ble mae gan blentyn ddatganiad, mae eglurder bod y cyfrifoldeb terfynol yn gorwedd gyda’r ALl.

 

5.3 Nodwn fod angen mwy o eglurder o safbwynt ble byddai cyfrifoldeb yn gorwedd o fewn y gyfundrefn newydd a’r sefyllfaoedd hynny ble bydd y cyfrifoldeb yn cael ei basio o lefel ysgol unigol i lefel ALl e.e. achosion o anghenion dwys

 

5.4 Mae RhAG yn ymwybodol am nifer o ysgolion cyfrwng Cymraeg – yn arbennig mewn ardaloedd ble mae nifer llai o ysgolion Cymraeg – sy’n ysgwyddo cyfrifoldebau am ddysgwyr, nifer ohonynt gyda anghenion ychwanegol sydd yn medru bod yn ddwys, a hynny heb gefnogaeth llawn, yn wir mewn rhai achosion, lle mae lefel y gefnogaeth yn isel iawn. Profiad nifer o’r ysgolion hynny yw fod yn rhaid brwydro i gael unrhyw gefnogaeth - boed hynny’n ariannol, arbenigol neu ymarferol - er mwyn ymdopi gyda’r sefyllfa a’u galluogi i gynnig darpariaeth o’r ansawdd uchaf posib i’r dysgwr. Amlygir hynny ymhellach mewn ALl lle mae diffyg, bwlch neu absenoldeb o ran ymarferwyr ac arbenigwyr sy’n medru gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

5.5 Wrth gynllunio cyfundrefn a fydd yn rhoi mwy o gyfrifoldeb ar ysgolion, colegau a darparwyr unigol, mae angen mwy o fanylder ynghylch y materion canlynol:

 

·         Clustnodi adnoddau cyllidol digonol

·         Sicrhau lefelau staffio digonol

·         Darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol i ysgolion mewn da bryd

·         Cynnal a darparu hyfforddiant pwrpasol a phriodol i aelodau staff, cyrff llywodraethu ayb

 

6. Meysydd eraill y dylid rhoi ystyriaeth iddynt

 

6.1 Credwn bod yr agweddau canlynol yn allweddol er mwyn cyrraedd y nod ac er mwyn grymuso dysgwyr a’u teuluoedd yn llawn. Rhaid wrth sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i’r trefniadau hyn a bod manylu ynghylch hynny ar wyneb y Bil, neu yn y Cod Ymarfer arfaethedig:

 

·         Sefydlu ymagweddiad rhyng-ddisgyblaethol ac amlasiantaethol o’r cychwyn cyntaf er mwyn cynllunio’r ddarpariaeth a monitro ac asesu cynnydd. Dylid sicrhau bod unrhyw drefn newydd h.y. y Cynlluniau Datblygu Unigol yn gosod yr iaith Gymraeg yn ystyriaeth ganolog ymhob agwedd o gynllunio, cyflwyno a chynllunio’r ddarpariaeth. Mae cynllunio integredig o safbwynt meysydd megis y Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gwbl greiddol yn hynny o beth.

·         Trefniadau pontio gwell rhwng cyfnodau cyn-ysgol, addysg statudol ac 16+ er mwyn sicrhau darpariaeth di-dor.

·         Mae angen parchu a gweithredu ar ddyheadau a dymuniad rhieni. Mae llais y plentyn hefyd yn gwbl greiddiol, er mwyn sicrhau lles a buddiannau gorau. Dyma ddylai lywio’r holl broses, yn hytrach nag argymhellion sy’n ymddangos yn llai trafferthus neu’n llai costus i’r awdurdod lleol.

·         Dylid sicrhau trefniadau ariannu clir, effeithiol ac effeithlon. Sut mae cyllid ADY yn cael ei ddyrannu i ysgolion? Mae angen edrych ar sut caiff y cymorth ei gyflwyno ar lawr y dosbarth, boed hynny’n gefnogaeth un i un; cymorth i’r athro dosbarth ayb. Mae’n allweddol sicrhau bod ysgolion yn derbyn y lefel uchaf o gefnogaeth posib.

·         Mae angen mynd i’r afael â’r diffyg deunydd ac adnoddau yn y maes, yn arbennig o safbwynt y Gymraeg. Mae angen gwneud defnydd arloesol a blaengar o dechnoleg er mwyn hwyluso’r dysgu ar lawr y dosbarth.

·         Rhannu arfer dda ac arbenigedd rhwng ysgolion, yn draws-sirol a rhanbarthol. Mae RhAG yn ymwybodol o achosion ble mae disgyblion o amrywiol gefndiroedd ieithyddol WEDI llwyddo yn y sector cyfrwng Cymraeg. Mae angen rhannu’r profiadau hynny a lledaenu’r gwersi a ddysgwyd yn eang.

·         Mae angen ymchwil eang yn y maes, yn arbennig o safbwynt caffael iaith mewn sefyllfaoedd ble mae cefndir ieithyddol gymysg ar yr aelwyd neu ddim Cymraeg o gwbl.

·         Rhaid wrth gyfathrebu clir a chadarn er mwyn osgoi gelyniaethu rhieni. Mae angen cefnogi gwybodaeth a rhieni ddim yn gwybod lle i droi am gyngor.  Mae angen mwy o integreiddio a thynnu’r rhieni a’r teulu ar y daith.

 

 

7. Sylwadau ychwanegol

7.1 Profiadau rhieni:

Isod dymunwn gyfeirio at dri achos sydd wedi dod i sylw RhAG dros y blynyddoedd diwethaf, sy’n darlunio’r heriau ymarferol hynny mae rhieni wedi gorfod eu hwynebu mewn sefyllfaoedd go iawn. Dylai unrhyw ddeddfwriaeth newydd fynd i’r afael â’r materion hyn.

Mae’r achosion yn ddi-enw a’r manylion personol wedi eu golygu.

Achos A: Plentyn yn mynychu Cylch Meithrin mewn ardal Dechrau’n Deg yn y de ddwyrain a’r fam yn ddi-Gymraeg. Mae problemau iaith a lleferydd gan y plentyn a rhai anghenion corfforol.  Y fam yn awyddus iddo barhau gyda’i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a throsglwyddo i’r ysgol Gymraeg agosaf. Profodd gefnogaeth rhagorol yn y Cylch gan wneud cynnydd boddhaol. Roedd yn hapus ac yn fodlon ei fyd yno mewn amgylchedd Cymraeg a Chymreig.  Yn ystod y broses o ymgeisio am le yn yr ysgol, argymhelliad y sir oedd iddo fynd i ddosbarth arsylwi cyfrwng Saesneg am 6 mis gan nad oes dosbarth arsylwi cyfrwng Cymraeg yn y sir dan sylw. Rhoddodd y sir wybod na fyddent yn ariannu’r cymorth un i un iddo yn yr ysgol Gymraeg pe byddai’n dewis gwrthod eu hargymelliad. Er bod yr ysgol Gymraeg gryn bellter i ffwrdd, roedd y fam yn awyddus i wneud yr aberth o’r daith yno ac yn ôl am ei bod yn angerddol dros roi addysg Gymraeg i’w plant, er bod darpariaeth cyfrwng Saesneg ar stepen drws yn fwy cyfleus.

Achos B:Plentyn gyda Dyslecsia ac elfennau o Dyspraxia, yn byw yng nghanolbarth Cymru ar aelwyd Gymraeg ei hiaith ac yn mynychu ffrwd Gymraeg mewn ysgol gynradd gyda ffrydiau Cymraeg a Saesneg cyfochrog. Bu pryder bron o’r cychwyn gan y rhieni ynglŷn â chynnydd a datblygiad eu plentyn, ond na chodwyd y mater yn ffurfiol gyda’r ysgol tan ddiwedd Blwyddyn 1. Erbyn hyn roedd yn amlwg ei fod yn tangyflawni yn ei waith darllen ac ysgrifennu a lefelau cyrhaeddiad addysgol yn sylweddol is na’i oedran. Roedd ei gyrhaeddiad yn sylweddol is trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd hynny’n annesboniadwy i’r rhieni o mai Cymraeg oedd iaith yr aelwyd a bod y plentyn mewn ffrwd Gymraeg.

Cymerodd dros 15 mis i gael cytundeb bod angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol ar y plentyn. Y rhieni eu hunain aeth a’r plentyn i’w asesu yn annibynnol gan Uned Dyslecsia Prifysgol Bangor. Cafwyd cadarnhad bod ganddo Ddyslecsia ac elfennau o Dyspraxia.  Ar gais y rhieni cafodd ei asesu gan Seicolegydd Addysg ond bu’n rhaid cynnal yr asesiad trwy gyfrwng y Saesneg gan nad oedd y Sir yn cyflogi ymarferwr oedd yn medru’r Gymraeg. Cynhaliwyd profion darllen trwy gyfrwng y Saesneg ond ni wnaethpwyd hynny yn y Gymraeg, er mai trwy gyfrwng y Gymraeg roedd y plentyn yn derbyn ei addysg. Cafwyd esboniad mai’r ysgol oedd yn gyfrifol am hynny, ond daeth yn amlwg nad oedd neb wedi cysylltu â hwy i drefnu bod hynny’n digwydd. P’run bynnag doedd yr adnoddau priodol i gynnal y profion ddim gan yr ysgol; cynigiodd ysgol arall roi benthyg eu adnoddau hwy ond ni ddigwyddodd hynny.

Yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol gynradd cafodd y plentyn amrywiaeth o gefnogaeth,gan gynnwys cymorth achlysurol gan gymhorthydd dosbarth nad oedd yn medru siarad Cymraeg; ei ddysgu am dymor gan fyfyriwr ar leoliad yn yr ysgol ac yna gan athrawes newydd gymhwyso heb unrhyw brofiad o ddelio gyda Dyslecsia.

Profwyd methiant ar ran yr ysgol i drefnu cyfarfodydd amlasiantaeth rheolaidd er mwyn cydlynu’r gefnogaeth angenrheidiol. Trwy’r cyfan, y rhiant oedd yn rhagweithiol ac yn ysgogi popeth e.e. cyflwyno adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer Dyslecsia i’r ysgol gan nad oedd cyllid ganddynt i ariannu hynny a chyfeirio’r ysgol at SENCOs eraill gyda phrofiad o weithio yn y Gymraeg ond bu’r ysgol yn araf i wneud cyswllt os gwnaethpwyd o gwbl.

Dros gyfnod o bedair mlynedd bu’r rhieni’n brwydro i gael chwarae teg i’w plentyn. Yn gynyddol teimlwyd bod yr ysgol a’r awdurdod lleol wedi methu eu mab a hwythau. Yn groes i bob egwyddor ac argyhoeddiad personol, penderfynodd y teulu dynnu’r plentyn o’r ffrwd Gymraeg er mwyn iddo gael mynediad at y gefnogaeth a’r ddarpariaeth arbenigol yr oedd ei angen arno a hynny mewn darpariaeth cyfrwng Saesneg.

Achos C:Plentyn 5 oed yn rhannol fyddar (gwisgo teclynnau clyw) ac yn mynychu ysgol Gymraeg mewn sir yn y de ddwyrain.  Roedd ei fam yn dysgu Cymraeg ac aelod arall o’r teulu (chwaer) hefyd yn siarad Cymraeg. Cafwyd pwysau gan y sir i’r rhiant symud y plentyn i uned gydag arbenigedd clyw yn y sector cyfrwng Saesneg. Roedd y plentyn yn fodlon iawn ei fyd yn yr ysgol a’r rhiant yn awyddus iddo gael parhau yno trwy dderbyn cymorth 1:1. Roedd amgylchiadau bregus gan y rhiant dan sylw a chafwyd bygythiad y byddai’r gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu galw os na fyddai’r rhiant yn cydymffurfio.  Roedd yr ysgol Gymraeg wedi datgan eu parodrwydd i wneud eu gorau dros y plentyn ac i gefnogi’r rhiant hyd eithaf eu gallu. Gan nad oedd Uned Fyddar cyfrwng Cymraeg na therapyddion iaith yn medru gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal, roedd y Sir yn benderfynol mai symud i’r sector cyfrwng Saesneg oedd orau i’r plentyn. Yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn yr ysgol roedd ganddo gefnogaeth cymhorthydd oedd yn medru arwyddo gan lwyddo i wneud cynnydd cadarnhaol. Gwnaeth yr ysgol gais am gyllid i ariannu cefnogaeth un i un ar gyfer y plentyn ond roedd y sir yn araf i ymateb ac yn amlwg yn anfodlon gweithredu’n gadarnhaol i’r perwyl hwnnw.

 

7.2 Mae’r achosion uchod yn profi un peth sylfaenol, sef bod pob plentyn yn unigryw a phob achos yn wahanol. Serch hynny, rhaid cael gwaelodlin sy’n gosod yr egwyddor sylfaenol na ddylai dewis iaith fod yn ystyriaeth neu elfen sy’n arwain at ymdriniaeth anffafriol o’r plentyn. Mae’r achosion uchod yn amlygu’r angen dros gadarnhau hynny mewn deddfwriaeth.

 

8. Sylwadau i gloi

 

8.1 Mae’n ffaith anorfod, y bydd iaith yn her gydol oes i fwyafrif y plant a’r bobl ifanc sydd ag unrhyw fath o anhawster neu her addysgol, ond ni ddylai hynny olygu na ddylent gael y cyfle i ddysgu, profi a mwynhau’r iaith fel unrhyw un arall.  Mae hefyd yn anochel y bydd rhai plant yn datblygu yn llai cyflym ac yn cymryd llawer mwy o amser i ddatblygu ond nid yw hynny’n reswm i beidio a chyflwyno’r iaith iddynt. Rheswm yw hynny dros roi’r gefnogaeth uchaf posib iddynt.

 

8.2 Rhaid gofyn, pa neges a ydym am ei roi i rieni?  Ydy sefyllfa lle caiff plant eu hatal rhag dysgu iaith oherwydd anabledd neu anhawster dysgu yn dderbyniol?  Ydy hynny’n sicrhau cynhwysiant gwirioneddol?  Mae diwygio’r ddeddfwriaeth a chyflwyno Cod Ymarfer newydd arfaethedig yn cynnig cyfle amhrisiadwy i unioni’r anghydraddoldeb presennol a rhoi cyfleoedd cyfartal i bob plentyn yng Nghymru ddysgu’r iaith Gymraeg.